2016 Rhif 77 (Cy. 34)

addysg, cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2015, a fydd yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2015.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2015 drwy fewnosod ym mharagraff (1) ddiffiniad o “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys”. Mae’r diffiniadau hyn yn ymwneud â’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2015 gan reoliadau 7 a 13.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2015. Mae’n darparu y caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan reoliad 5 o Reoliadau 2015.

Mae rheoliad 5 yn cywiro gwall yn Rheoliadau 2015.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2015. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr lofnodi contract sy’n ymwneud â benthyciad drwy ddefnyddio llofnod electronig.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 28 o Reoliadau 2015 sy’n ymwneud â chymhwystra i gael grant gofal plant. Ni fydd gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant yn ystod unrhyw gyfnod pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014.

Mae rheoliad 8 yn cywiro gwall yn nhestun Saesneg Rheoliadau 2015.

Mae rheoliad 9 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 67 o Reoliadau 2015. At ddibenion rheoliad 67, mae person i gael ei drin fel myfyriwr cymwys er nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra perthnasol yn Rheoliadau 2015.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 71 o Reoliadau 2015. Mae’n darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 71.

Mae rheoliad 11 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 85 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i reoliad 9.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 88 o Reoliadau 2015. Er mwyn i gyrsiau rhan-amser penodol gael eu dynodi fel cyrsiau sy’n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, rhaid i gwrs arwain at ddyfarniad a roddir gan gorff sydd wedi ei awdurdodi i ddyfarnu graddau gan Siarter Frenhinol, o dan Ddeddf neu gan gorff arall y caniateir iddo weithredu ar ran corff o’r fath. Mae rheoliad 12 hefyd yn darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 88.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 97 o Reoliadau 2015 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant). Mae effaith y newid yn debyg i’r diwygiadau a wneir gan reoliad 7 sy’n ymwneud â chymhwystra myfyrwyr llawnamser i gael grant gofal plant.

Mae rheoliad 14 yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2015.

Mae rheoliad 15 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 114 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i’r rheini yn rheoliad 9.

Mae rheoliad 16 yn cywiro gwall yn nhestun Saesneg Rheoliadau 2015 ac yn darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 117 o Reoliadau 2015.

Mae rheoliad 17 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 124 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i’r rheini yn rheoliad 9.

Mae rheoliad 18 yn cyflwyno’r Atodlen. Mae’r Atodlen yn amnewid amryw ffigurau yn rheoliadau 17, 19, 21, 46, 47, 48, 49, 50 ac 61 o Reoliadau 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar

gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn

perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd

asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision

sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau

hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2016 Rhif 77 (Cy. 34)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                26 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Ionawr 2016

Yn dod i rym                      22 Chwefror 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2) Mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 2, 4, 5, 8, 10, 12(2), 14 ac 16 yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016.

(3) Mae pob rheoliad arall a’r Atodlen—

(a)     yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016; a

(b)     yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2016.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015([3]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 18.

3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(1) ar ôl y diffiniad o “cyfnod arferol” mewnosoder—

mae i “cyfnod hawlogaeth” (“entitlement period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A);”

(2) ar ôl y diffiniad o “chwarter” mewnosoder—

“mae i “datganiad cymhwystra dilys” (“valid declaration of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A).”

4. Yn rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (8).”

5. Yn rheoliad 10 (terfynau amser), ym mharagraff (2)(e) yn lle “22(4)” rhodder “22(7)”.

6. Yn lle rheoliad 12 (gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad), rhodder—

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

12.—(1) Er mwyn cael benthyciad rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys lofnodi contract drwy ddefnyddio llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru.”

 

7. Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—

(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3B)”.

(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys” yr un ystyr ag a roddir i “entitlement period” a “valid declaration of eligibility” at ddibenion Deddf Taliadau Gofal Plant 2014([4]) a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno.

(3B) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”

8. Yn y testun Saesneg yn rheoliad 37 (grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd), ym mharagraff (3)(a) ar ôl “£3,000” hepgorer y coma.

9. Yn rheoliad 67 (gordaliadau), ar ôl paragraff (13) mewnosoder—

(14) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan Ran 5 neu 6 ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys).”

10. Yn rheoliad 71 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan y rheoliad hwn.”

11. Yn rheoliad 85 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 69 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys).”

12. Yn rheoliad 88 (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—

(1) ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder—

(dd) ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ac sy’n dod o fewn paragraff 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988([5]).”

(2) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(8) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (6).”

13. Yn rheoliad 97 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—

(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3A)”.

(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”

14. Yn rheoliad 100 (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli)—

(1) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(i), (j), (k)” rhodder “(p), (q), (r)”;

(2) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(2) a (3)” rhodder “(3) a (4)”;

(3) ym mharagraff (1)(q) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;

(4) ym mharagraff (1)(r) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;

(5) ym mharagraff (5) yn lle “(5)” rhodder “(6)”;

(6) ym mharagraff (6) yn lle “(4)” rhodder “(5)”.

15. Yn rheoliad 114 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 86 (myfyrwyr rhan-amser cymwys).”

16. Yn rheoliad 117 (cyrsiau ôl-radd dynodedig)—

(1) yn y testun Saesneg ym mharagraff (1)(c) ar ôl “institution” yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “in”;

(2) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (4).”

17. Yn rheoliad 124 (gordaliadau), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(10) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 115 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys).”

18. Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith i roi’r ffigur yn nhrydedd golofn y tabl yn lle’r ffigur yn yr ail golofn lle y mae’n ymddangos yn y rheoliad yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 a nodir yn y golofn gyntaf.

 

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2016

 

 

                   YR ATODLEN     Rheoliad 18

Diwygiad i ffigurau

 

Darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Ffigur presennol

Ffigur newydd

Rheoliad 17

(3)(a)

£5,190

£5,100

(3)(b)

£3,810

£3,900

(4)(a)

£2,605

£2,560

(4)(b)

£1,895

£1,940

Rheoliad 19

(3)(a)

£3,805

£3,925

(3)(a)

£1,895

£1,955

Rheoliad 21

(3)(a)

£3,810

£3,900

(4)(a)

£1,895

£1,940

Rheoliad 46

(2) (i) categori 1

£4,162

£4,786

(2) (ii) categori 2

£7,532

£8,662

(2) (iii) categori 3

£6,410

£7,372

(2) (iv) categori 4

£6,410

£7,372

(2) (v) categori 5

£5,376

£6,183

(3) (i) categori 1

£3,767

£4,333

(3) (ii) categori 2

£6,858

£7,887

(3) (iii) categori 3

£5,575

£6,412

(3) (iv) categori 4

£5,575

£6,412

(3) (v) categori 5

£4,980

£5,727

Rheoliad 47

(2) (a) categori 1

£4,162

£4,786

(2) (b) categori 2

£7,532

£8,662

(2) (c) categori 3

£6,410

£7,372

(2) (d) categori 4

£6,410

£7,372

(2) (e) categori 5

£5,376

£6,183

(3) (a) categori 1

£3,767

£4,333

(3) (b) categori 2

£6,858

£7,887

(3) (c) categori 3

£5,575

£6,412

(3) (d) categori 4

£5,575

£6,412

(3) (e) categori 5

£4,980

£5,727

Rheoliad 48

(2) (i) categori 1

£4,162

£4,786

(2) (ii) categori 2

£7,532

£8,662

(2) (iii) categori 3

£6,410

£7,372

(2) (iv) categori 4

£6,410

£7,372

(2) (v) categori 5

£5,376

£6,183

(3) (i) categori 1

£3,767

£4,333

(3) (ii) categori 2

£6,858

£7,887

(3) (iii) categori 3

£5,575

£6,412

Darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Ffigur presennol

Ffigur newydd

(3) (iv) categori 4

£5,575

£6,412

(3) (v) categori 5

£4,980

£5,727

Rheoliad 49

(2) (i) categori 1

£4,162

£4,786

(2) (ii) categori 2

£7,532

£8,662

(2) (iii) categori 3

£6,410

£7,372

(2) (iv) categori 4

£6,410

£7,372

(2) (v) categori 5

£5,376

£6,183

(3) (i) categori 1

£3,767

£4,333

(3) (ii) categori 2

£6,858

£7,887

(3) (iii) categori 3

£5,575

£6,412

(3) (iv) categori 4

£5,575

£6,412

(3) (v) categori 5

£4,980

£5,727

Rheoliad 50

(1)(a) (i) categori 1

£1,976

£2,272

(1)(a) (ii) categori 2

£3,703

£4,259

(1)(a) (iii) categori 3

£2,634

£3,030

(1)(a) (iv) categori 4

£2,634

£3,030

(1)(a) (v) categori 5

£2,634

£3,030

(1)(b) (i) categori 1

£1,976

£2,272

(1)(b) (ii) categori 2

£3,703

£4,259

(1)(b) (iii) categori 3

£3,150

£3,623

(1)(b) (iv) categori 4

£3,150

£3,623

(1)(b) (v) categori 5

£2,634

£3,030

(1)(c) (i) categori 1

£3,121

£3,590

(1)(c) (ii) categori 2

£5,649

£6,497

(1)(c) (iii) categori 3

£4,807

£5,529

(1)(c) (iv) categori 4

£4,807

£5,529

(1)(c) (v) categori 5

£4,032

£4,637

(2)(a) (i) categori 1

£1,501

£1,727

(2)(a) (ii) categori 2

£2,831

£3,256

(2)(a) (iii) categori 3

£2,053

£2,361

(2)(a) (iv) categori 4

£2,053

£2,361

(2)(a) (v) categori 5

£2,053

£2,361

(2)(b) (i) categori 1

£1,501

£1,727

(2)(b) (ii) categori 2

£2,831

£3,256

(2)(b) (iii) categori 3

£2,302

£2,648

(2)(b) (iv) categori 4

£2,302

£2,648

(2)(b) (v) categori 5

£2,053

£2,361

(2)(c) (i) categori 1

£2,825

£3,250

(2)(c) (ii) categori 2

£5,143

£5,915

(2)(c) (iii) categori 3

£4,181

£4,809

(2)(c) (iv) categori 4

£4,181

£4,809

(2)(c) (v) categori 5

£3,735

£4,295

Rheoliad 61

(3)(a) categori 1

£3,121

£3,590

(3)(b) categori 2

£5,649

£6,497

(3)(c) categori 3

£4,807

£5,529


 

Darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Ffigur presennol

Ffigur newydd

(3)(d) categori 4

£4,807

£5,529

(3)(e) categori 5

£4,032

£4,637

(4)(a) categori 1

£2,825

£3,250

(4)(b) categori 2

£5,143

£5,915

(4)(c) categori 3

£4,181

£4,809

(4)(d) categori 4

£4,181

£4,809

(4)(e) categori 5

£3,735

£4,295

 

 



([1])           1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 ac O.S. 2013/1881. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 2015/54 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1505 (Cy. 173).

([4])           2014 p. 28.

([5])           1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8.